Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd/Zoom
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 6
Hydref 2020
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6592
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.31
Gofynnwyd cwestiynau 1 a 3-9. Tynnwyd cwestiwn 2 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 3.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14.33
3 Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Adolygiad Addysg y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) 2020
Dechreuodd yr eitem am 14.58
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 15.32 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Llywydd.
4 Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd: Ailadeiladu ar ôl Covid-19 – Heriau a Blaenoriaethau
Dechreuodd yr eitem am 15.41
5 Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd: Diweddariad ar effeithiau cyllidol Covid-19 a'r rhagolygon ar gyfer y gyllideb yn y dyfodol
Dechreuodd yr eitem am 16.30
6 Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 12) 2020
Dechreuodd yr eitem am 17.11
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7412 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 12) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Medi 2020.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
37 |
9 |
6 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig.
7 Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 13) (Llanelli etc.) 2020
Dechreuodd yr eitem am 17.11
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7409 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 13) (Llanelli etc.) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Medi 2020.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
46 |
0 |
6 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig.
8 Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 14) (Abertawe a Chaerdydd) 2020
Dechreuodd yr eitem am 17.11
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7412 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 14) (Abertawe a Chaerdydd) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Medi 2020.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
28 |
9 |
15 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig.
9 Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 15) (Bro Morgannwg, Castell-nedd Port Talbot a Thorfaen) 2020
Dechreuodd yr eitem am 17.11
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7410 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 15) (Bro Morgannwg, Castell-nedd Port Talbot a Thorfaen) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Medi 2020.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
28 |
9 |
15 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 17.50 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Cadeirydd dros dro.
10 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Pysgodfeydd
Dechreuodd yr eitem am 17.56
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7408 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Pysgodfeydd i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Chwefror 2020 a gosodwyd Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Gorffennaf 2020 a 16 Medi 2020 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Y Bil Pysgodfeydd (Saesneg yn unig)
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
42 |
0 |
10 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig.
11 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Tân
Dechreuodd yr eitem am 18.31
NDM7407 Hannah Blythyn (Delyn)
Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Diogelwch Tân i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Ebrill 2020 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Mae copi o’r Bil i’w weld ar wefan Senedd y DU:
Y Bil Diogelwch Tân (Saesneg yn unig)
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
12 Cynnig Cydsyniad Offeryn Statudol ar Reoliadau Gwastraff (Economi Gylchol) (Diwygio) 2020
Dechreuodd yr eitem am 18.46
NDM7413 Hannah Blythyn (Delyn)
Cynnig bod y Senedd yn cytuno, yn unol â Rheol Sefydlog 30A.10, fod yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud Rheoliadau Gwastraff (Economi Gylchol) (Diwygio) 2020, yn unol â'r drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Medi 2020.
Gosodwyd y Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Medi 2020 yn unol â Rheol Sefydlog 30A.2.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
13 Dadl: Mynd i'r Afael â Hiliaeth ac Anghydraddoldeb Hiliol
Dechreuodd yr eitem am 18.57
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7414 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cefnogi yn llwyr
a) y frwydr fyd-eang i gael gwared â hiliaeth ac ideoleg hiliol ac ymdrechu tuag at Gymru sy’n fwy cyfartal, gan fynd i’r afael ag anghydraddoldeb hiliol systemig a strwythurol, a
b) egwyddorion Confensiwn Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu Hiliol (CERD).
2. Yn galw am ddiweddariad gan Gomisiwn y Senedd ar ddatblygiad datganiad trawsbleidiol ar gyfer Cymru sy’n ymgorffori egwyddorion CERD.
3. Yn croesawu gwaith diwyd y Grŵp Cynghorol BAME ar COVID-19, a gydgadeirir gan y Barnwr Ray Singh a’r Dr Heather Payne, yr Is-grŵp Asesu Risg a gadeirir gan yr Athro Keshav Singhal a’r Is-grŵp Economaidd-gymdeithasol a gadeirir gan yr Athro Emmanuel Ogbonna ac yn galw am i Lywodraeth Cymru sicrhau bod argymhellion Adroddiad yr Athro Ogbonna yn cael eu gweithredu’n llawn ac ar gyflymder.
4. Yn cydnabod yr angen am Gynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol ar gyfer Cymru i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb strwythurol a systemig, ac i hybu cyfleoedd i bobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru.
Y Confensiwn Rhyngwladol ar Ddiddymu Pob Math o Wahaniaethu Hiliol (Saesneg yn unig)
Grŵp Cynghorol BAME y Prif Weinidog ar COVID-19: Adroddiad yr Is-grŵp Economaidd-gymdeithasol
Cyd-gyflwynwyr
Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23 (iii), ni ddewiswyd gwelliannau 1, 2, 3, 4, a 5 a gyflwynwyd i’r cynnig hwn.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
48 |
1 |
3 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig.
14 Cyfnod pleidleisio
Yn unol â Rheol Sefydlog 34.14D, am 20.03, cafodd y trafodion eu hatal dros dro er mwyn caniatáu egwyl technegol cyn y cyfnod pleidleisio.
Dechreuodd yr eitem am 20.07
Crynodeb o Bleidleisiau
Daeth y cyfarfod i ben am 20.12
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 7 Hydref 2020